click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Advanced Search
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Advanced Search
we found 0 results
Your search results

Penmachno

North Wales |

About

 

Mae Penmachno yn cuddio ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac er nad yw’n bell o Fetws y Coed, mae’n cynnig tirwedd olygfaol o hen goedwigoedd, traciau sengl gwych a reidio da, naturiol! Mor naturiol, fel bod grŵp o wirfoddolwyr yn cynnal a chadw’r llwybrau’n rheolaidd – croeso i bob cyfraniad!
Cyfleusterau
Mae Betws y Coed gerllaw ar gyfer lluniaeth a mwynderau. Rydym wedi rhoi cymaint o wybodaeth ag y bo modd am y cyfleusterau cyfagos ar y cardiau llwybr unigol y gellir eu lawrlwytho, megis toiledau a pharcio, lluniaeth, siopau a gwasanaethau beics. Os chwiliwch ar ein map ni am gyfleusterau cyfagos, cewch fwy o wybodaeth am lety, bwytai a gwasanaethau beics.
Dod Yma
Ewch ar hyd yr A5 ac yna’r B4406 i Benmachno. Ewch i mewn i’r pentref, dros y bont ac i’r chwith heibio tafarn yr Eagles. Unwaith heibio’r dafarn ewch ymlaen rhyw hanner milltir – mae pen y llwybr ar y dde (trac llydan yn y goedwig).
Ar gyfer gwasanaethau lloeren/GPS/Mapio, defnyddiwch: LL24 0YP (dyma’r côd post agosaf, ond ni fydd yn mynd â chi i ben y llwybr, felly dilynwch y cyfarwyddiadau uchod unwaith y byddwch yn y pentref!)
Defnyddiwch: Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans: SH 786 498