click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Hiraethog

North Wales |
Details

Hiraethog

North Wales

About

Gem gudd arall ar y ffordd trwy Ddolgellau. Mae coedwigoedd coll, cronfeydd a gweundir ardal Mynydd Hiraethog yn berffaith i’r sawl sy’n hoffi ychydig o unigedd ar eu traciau sengl.

Lleolir Mynydd Hiraethog yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ddim yn rhy bell o Gaer, Lerpwl a Manceinion. Bydd y llwybrau yn addas i bob gallu, o hwyl i’r teulu i reidiau epig o 80km. Mae gwefan Ride North Wales hefyd yn rhoi proffil llwybr a ffilmiau 3D arloesol sy’n caniatáu i chi wneud yn siŵr bod y llwybr rydych yn ei ddewis yn bodloni eich disgwyliadau.

Cyfleusterau

Rydym wedi rhoi cymaint o wybodaeth ag y bo modd am y cyfleusterau cyfagos ar y cardiau llwybr unigol y gellir eu lawrlwytho, megis toiledau a pharcio, lluniaeth, siopau a gwasanaethau beics. Os chwiliwch ar ein map ni am gyfleusterau cyfagos, cewch fwy o wybodaeth am lety, bwytai a gwasanaethau beics.

Gwybodaeth Gyswllt

Gwefan swyddogol: www.ridenorthwales.co.uk

Dod Yma

O Fanceinion, Lerpwl a’r Gogledd-orllewin
Mae’r A55 yn dod â chi i arfordir Gogledd Cymru o Gaer (yn cysylltu o’r M56, M6 a’r M53). Gadewch yr A55 yng nghyffordd 27A, yna ewch i ardal Hiraethog a Gweundir Dinbych ar yr A525 trwy Ddinbych.

O Birmingham, Canolbarth Lloegr a De Cymru
Teithiwch i’r de o Hiraethog ar yr A5 trwy Amwythig, Llangollen a Chorwen.

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Betws y Coed.
Ar gyfer gwasanaethau lloeren/GPS/Mapio, defnyddiwch: Hiraethog neu Ruthun
Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans: SJ000530