Your search results

Parciau Beicio Cymru yn Cynllunio ar gyfer Ailagor

Posted by Rachel Simpson on 26th Mehefin 2020
| Blog
| 0

Mae bob parc beicio yng Nghymru wedi derbyn ceisiadau gan feicwyr sy’n awyddus i ddod yn ôl i’n llwybrau o’r radd flaenaf. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel grŵp tuag at ailagor fesul cam ar draws holl leoliadau beicio mynydd yng Nghymru.

Mae rheolau cyfyngiadau ar symud yng Nghymru yn hollol wahanol i’r canllawiau yn Lloegr, gyda chyfyngiadau llym yn eu lle.

Gan nad oes canllawiau penodol, manwl ar gyfer ein diwydiant, rydym wedi dod ynghyd fel grŵp o leoliadau beicio ar draws Cymru i gydlynu ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau ein bod yn ailagor ein llwybrau cyn gynted â phosibl wrth leihau’r perygl i feicwyr, ein staff, ein cymunedau lleol a’r GIG.

Ar hyn o bryd, mae holl lwybrau yn parhau i fod ar gau, fodd bynnag mae dyddiad targed wedi ei nodi ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 6 Gorffennaf ar gyfer agor canolfannau beicio. Mae hyn yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn llacio’r cyfyngiadau teithio. Gall gymryd hirach ar gyfer gwasanaethau ymgodi. Bydd dyddiadau ac oriau agor yn cael eu cyhoeddi gan safleoedd unigol yn unol â’u sefyllfa ac yn amodol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae pob lleoliad yn wahanol, felly sicrhewch eich bod yn dilyn cyfryngau cymdeithasol a gwefannau unigol i gael gwybodaeth ailagor.

Bydd angen i’r holl safleoedd weithredu ar gapasati llai a bydd ymgodi yn dibynnu ar allu’r lleoliad i gynnig cludiant diogel.

Bydd gan safleoedd eu rheolai eu hunain ar gyfer eu sefyllfaoedd unigryw eu hunain, ond bydd mesurau cyffredin yn gymwys

Cynllunio eich ymweliad

  • Gwiriwch ganllawiau’r llywodraeth, gwefan a chyfryngau cymdeithasol y lleoliad cyn i chi adael eich cartref.
  • Os ydych yn ymweld â pharc beiciau, cwblhewch yr archeb ar-lein cyn gadael eich cartref.
  • Glanhewch eich dillad ac offer cyn i chi ddechrau a phan gyrhaeddwch adref.
  • Byddwch yn hunangynhaliol. Dewch â:- chyfarpar, bocs cymorth cyntaf a hylif diheintio personol.  Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi, yn arbennig cyfarpar diogelu personol Covid!

Parchwch staff ac ymwelwyr eraill

  • Os ydych chi neu unrhyw un ydych chi’n byw gyda nhw yn dangos symptomau, arhoswch gartref.
  • Cadwch bellter cymdeithasol bob amser; wrth feicio, ciwio, dathlu eich sgil, ac yn arbennig o amgylch y cyfleusterau.
  • Golchwch eich dwylo, peidiwch â chyffwrdd eich wyneb. Dewch â hylif diheintio gyda chi.
  • Rhaid i chi wisgo masg wyneb os ydych yn defnyddio cludiant.

Arhoswch yn ddiogel

  • Beiciwch o fewn eich gallu – nid dyma’r amser i fod yn arwr.
  • Diogelwch y GIG; deliwch â damweiniau eich hunain, ceisiwch gysylltu â’r ganolfan cyn ffonio 999. Cofiwch y gall ymateb i argyfwng gael ei oedi.

Er mwyn galluogi i fusnesau weithredu gyda niferoedd llai o feicwyr, rhaid i ni gytuno ar dâl atodol Covid-19. Dyma swm ychwanegol ar ben y prisiau arferol, a bydd hyn yn gymwys ar gyfer holl leoliadau beicio Cymru drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau.

  • Tocyn pedal/gwthio ac e-feic: £3 tâl ychwanegol Covid-19
  • Ymgodi: £7 tâl ychwanegol Covid-19

Ni fydd y tâl ychwanegol yn creu elw, ond bydd yn cynorthwyo i leihau’r colledion a diogelu swyddi a lleoliadau beicio. Bydd taliadau ychwanegol yn cael eu codi unwaith y bydd lleoliadau yn cael gweithredu ar y lefelau blaenorol. Sylwch efallai na fydd y tâl atodol yn ddigon i fusnesau weithredu o dan y cyfyngiadau.

Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a thrwy www.MBWales.com

Leave a Reply

Your email address will not be published.