Rydym ni, yn MBWales.com, yn parchu ac yn dymuno amddiffyn preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae’r ddogfen hon yn nodi manylion ein polisi preifatrwydd mewn perthynas â’r wybodaeth a gesglir ar y wefan hon.
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar ein polisi preifatrwydd fel y mae’n ymddangos yn y ddogfen hon, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad ebost canlynol: info@visitwales.co.uk
Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis porwr ar ein safle. Os nad ydych yn gwybod beth yw cwcis, neu sut i’w rheoli a’u dileu, rydym yn argymell eich bod yn mynd i http://www.aboutcookies.org i gael arweiniad manwl.
Rydym ar hyn o bryd yn gweithredu polisi “caniatâd goblygedig” sy’n golygu ein bod yn tybio eich bod yn fodlon â’r defnydd hwn.
Os nad ydych yn hapus, yna dylech naill ai beidio â defnyddio’r safle hwn, neu dylech ddileu cwcis MBWales ar ôl ymweld â’r safle, neu dylech bori’r safle gan ddefnyddio gosodiad di-enw eich porwr ( “Incognito” yn Chrome, “InPrivate” yn Internet Explorer, “Private Browsing” yn Firefox a Safari ac yn y blaen).
Er ein bod yn defnyddio cwcis ar y Safle, nid ydym yn dibynnu ar eu defnydd.
*Nid yw unrhyw un o’n cwcis yn casglu nac yn defnyddio gwybodaeth bersonol.
Pryd a sut ydyn ni’n casglu data gennych?
Rydym yn casglu data gennych:-
- pan fyddwch yn cofrestru ar y safle eich bod yn hapus i ni anfon gwybodaeth atoch yn y dyfodol.
- pan fyddwch yn cofrestru eich manylion ar y safle.
- trwy gyfrwng dyfeisiau casglu data gan ddefnyddio cwcis ac astudio pa dudalennau rydych wedi ymweld â nhw amlaf.
Pa ddata gaiff ei gasglu?
Gall y data a gasglwn fod yn ddata personol a gall gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad ebost. Efallai y byddwn yn gofyn am eich rhif ffôn hefyd er mwyn medru cysylltu â chi os bydd problem. Mae gofyn i ni gan Dollau Tramor a Chartref EM storio a chasglu gwybodaeth am y wlad rydych yn byw ynddi.
Logio System
Nid ydym yn denfyddio manylion sy’n ymwneud â chyfeiriad Protocol Rhyngrwyd cyfrifiadur penodol er mwyn gweinyddu’r Safle nac i olrhain symudiad defnyddwyr fel arall trwy’r Safle.
Rydym, fodd bynnag, yn cofnodi peth gwybodaeth ynglŷn â defnyddio’r Safle ar ein systemau mewnol ni. Caiff yr wybodaeth ei defnyddio dim ond i alluogi i ni weinyddu’r Safle, cywiro camgymeriadau a chadw manylion defnyddiwr sydd wedi ychwanegu at neu newid gwybodaeth mewn archif benodol.
Pwy sy’n casglu’r wybodaeth?
Caiff yr wybodaeth ei chasglu gennym ni, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA. Mae gennym hysbysiadau dilys dan y Ddeddf Diogelu Data 1998. Mae’r wybodaeth sy’n medru adnabod person sydd ei angen i ddefnyddio’r Safle yn ein meddiant ni yn unig. Nid ydym yn rhannu, gwerthu na rhentu gwybodaeth i unrhyw berson, cwmni neu gyfundrefn mewn unrhyw ffordd ac eithrio’r hyn a nodir yn y ddogfen hon, neu a nodir yn y pwynt lle cesglir yr wybodaeth. Dylech nodi, fodd bynnaf, os byddwch yn gofyn am lyfryn trwy’r Safle neu drwy Croeso Cymru, mewn rhai achosion efallai y caiff eich manylion eu hanfon at gyfundrefn marchnata twristiaeth ranbarthol er mwyn iddynt fedru anfon y llyfryn atoch. [Bydd yr wybodaeth ond yn cael ei defnyddio gan y gyfundrefn honno at ddibenion anfon y llyfryn atoch.]
Caniatâd
Trwy ddatgelu gwybodaeth bersonol i ni rydych yn rhoi caniatâd i gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth yn y dull a ddisgrifir yn y Polisi hwn.
Sut caiff yr wybodaeth ei defnyddio a chan bwy?
Caiff yr wybodaeth uchod ei defnyddio gennym ni i’r pwrpas canlynol yn unig:-
- Cysylltu â chi os oes argyfwng; a
- Cysylltu â chi os cawn broblem wrth brosesu taliad.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn anfon cylchlythyr i’ch cyfeiriad ebost. Byddai hwn yn cynnwys gwybodaeth ar nodweddion a gwasanaethau newydd mewn perthynas â’r Safle. Efallai y byddai’r wybodaeth hefyd ar gael i gwmnïau cynhyrchion, nwyddau a gwasanaethau arbenigol cysylltiedig â thwristiaeth sydd â diddordeb mewn hysbysebu ar y Safle ac a all, o bryd i’w gilydd, ebostio manylion gwasanaethau arbenigol atoch a allai fod o ddiddordeb i chi.
Nid ydym yn ffafrio sefyllfa lle mae ein defnyddwyr yn cael toreth o ebyst amhriodol nad ydynt wedi gofyn amdanynt. Byddwn felly yn dewis yn ofalus y cyfundrefnau a fyddai’n cael y data hwn.
Mae gennych hefyd hawl i ‘optio allan’ o ddefnyddio eich gwybodaeth at ddibenion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Safle hwn. I gael manylion pellach ar hyn, darllenwch ‘Eich Hawliau Chi mewn Perthynas â’r Wybodaeth hon’ isod.
Pa fesurau diogelwch sydd gennym i ddiogelu’r wybodaeth hon?
O bryd i bryd, efallai y bydd y Safle yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid ydym ni yn gyfrifol am arferion preifatrwydd perchnogion a gweithredwyr y safleoedd hyn. Rydym felly yn eich annog i ddarllen y datganiadau a’r polisïau preifatrwydd ar bob safle lle gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol.
Eich Hawliau Chi mewn Perthynas â’r Wybodaeth hon
Os ydych eisiau newid eich gwybodaeth bersonol, defnyddiwch y cyfleusterau sydd ar gael ar y Safle i’w chywiro a’i diweddaru.
Cewch gyfle hefyd i ‘optio allan’ o ddefnyddio eich gwybodaeth at ddibenion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Safle hwn ar yr adeg pa fyddwn yn gofyn i chi am yr wybodaeth honno. Os ydych chi eisiau cofrestru i greu neu ddefnyddio archif (h.y. edefyn trafod) ond nid ydych eisiau derbyn cylchlythyrau, ebyst hyrwyddo neu ddeunydd marchnata yn y dyfodol, rhowch groes yn y blwch perthnasol sy’n ymddangos ar ein ffurflen gofrestru.
Os byddwch yn penderfynu, ar ôl cyfnod o amser, nad ydych bellach eisiau derbyn cylchlythyrau, ebyst hyrwyddo a marchnata, medrwch newid eich proffil personol yn unol â hynny. Ar y llaw arall, efallai y byddwch yn penderfynu yr hoffech ddechrau derbyn cylchlythyrau, ebyst hyrwyddo a marchnata.
Er mwyn newid eich proffil personol, dilynwch y broses dan ‘fy manylion’ yn y bar llywio ar y brig. Nodwch, fodd bynnag, na fedrwn ôl-ddyddio unrhyw newidiadau rydych yn eu gwneud. Mae hyn yn golygu y gallech barhau i dderbyn gwybodaeth gan drydydd parti penodol lle’r ydym eisoes wedi rhoi eich manylion i’r trydydd parti hwnnw. Bydd angen i chi felly gysylltu â phob trydydd parti o’r fath os nad ydych eisiau derbyn cylchlythyrau, ebyst hyrwyddo a marchnata yn uniongyrchol ganddyn’ nhw.
Newid polisi
Nodwch y ceidwn yr hawl i newid y polisi hwn ar unrhyw adeg yn y dyfodol, gyda neu heb rybudd. Os byddwn yn penderfynu newid y polisi, byddwn yn rhoi hysbysiad ynglŷn â’r newidiadau yn yr adran ‘Ynglŷn â’r Safle hwn’ ar y bar llywio ar y chwith.
Cwestiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ddogfen hon neu ein gweithdrefnau, cysylltwch â ni ar info@visitwales.co.uk