header_image
Your search results

Rheolau’r llwybr

Mae’r llwybr yn troi’n gyflym ac yn mynd dan gysgod y coed mawr – ai naid sydd o ‘mlaen? Ydw i’n barod am hyn? Ydw i’n ddigon da?

Ddim y math o gwestiynau rydych eisiau eu gofyn pan fyddwch ar y llwybr.

Mae beicio mynydd yn y bôn yn beth peryglus, felly’r ffordd orau o gadw’n ddiogel yw bod yn realistig ynglŷn â’ch gallu chi eich hun a bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.

GWISGWCH HELMED BOB AMSER

Ystyriwch wisgo dillad amddiffynnol arall. Cymerwch yr amser cyn reidio llwybr i ystyried yr wybodaeth ar raddio’r llwybr.

Ydych chi’n hyderus ynglŷn â beth mae’r radd yn ei olygu?

Oes gennych chi ddigon o brofiad mewn gwirionedd ar gyfer y llwybr hwn?

Oes yna unrhyw ddargyfeiriad?

Rydych eisiau mynd i reidio’r llwybr – dyma restr wirio gyflym:

  • Oes gennych chi fap ar gyfer y llwybr?
  • Oes gennych chi offer sbâr – tiwb gwynt ychwanegol er enghraifft?
  • Fedrwch chi drwsio’r beic ar y llwybr os bydd angen?
  • Ar gyfer reid hirach byddwch angen bwyd a dŵr.

Beth am eich ffitrwydd a’ch stamina? Mae llawer o ddamweiniau yn digwydd oherwydd blinder – peidiwch ag ymuno â’r clwb hwnnw!

  • Meddyliwch am y tywydd.
  • Ydych chi’n gwybod beth yw’r rhagolygon?
  • Cofiwch y gall y tywydd ar ddechrau’r llwybr fod yn iawn, ond yn uwch i fyny’r bryn, gall fod yn oerach.
  • Beth am gyflwr y llwybr? Ydi hi wedi bwrw eira neu lawio?

Mae’n haws delio â hyn i gyd os ydych chi wedi paratoi’n iawn. Meddyliwch ymlaen llaw a chynllunio cyn i chi reidio. Yna ewch ar eich beic, mwynhewch y reid, a dewch yn ôl yn ddiogel!