header_image
Your search results

Telerau ac amodau ar gyfer pinnau cyfleusterau ar fap MBWales.com

Meini Prawf

I fod yn gymwys i ddodi pin ar fap MBWales dylai eich busnes:

  • Gynnig gwasanaeth i’r gymuned beicio mynydd yng Nghymru
  • Fod wedi ei leoli ac yn gweithredu yn bennaf yng Nghymru
  • Fod yn barod i groesawu beicwyr mynydd mwdlyd a beiciau mwdlyd!
  • Rhaid i sefydliadau llety, lluniaeth a llogi a thrwsio beiciau fod â chyfeiriad Cymraeg. Bydd sefydliadau ond yn cael eu hychwanegu i’r map os oes ganddynt gôd post yng Nghymru.
  • Rhaid i ddarparwyr gweithgareddau hunan-ardystio ar gynllun Achredu Twristiaeth Gweithgaredd Croeso Cymru. I hunan-ardystio ewch i http://www.visitwales.com/wato

Dylai busnesau sy’n darparu gwasanaeth i’r gymuned beicio mynydd yng Nghymru, ond nad oes ganddynt gyfeiriad Cymraeg, gysylltu â ni i drafod opsiynau hysbysebu ar MBWales.com

Gwneud cais a thalu

Codir £59 y flwyddyn am binnau. Cymerir y tâl, trwy PayPal, fel rhan o’r broses gwneud cais.

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf Grŵp MBWales cyn talu am bin. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, holwch ni cyn talu.

Ar ôl derbyn ceisiadau, caiff y manylion a gyflwynir eu cymedroli gan Grŵp MBWales cyn cael eu cyhoeddi ar y wefan.

Os caiff cais ei wrthod, bydd y ffi flynyddol yn cael ei had-dalu, llai tâl am brosesu’r ad-daliad.

Adnewyddu

Bydd Grŵp MBWales yn eich hysbysu trwy ebost 28 diwrnod cyn y dyddiad adnewyddu.

Bydd yr ebost yn rhoi’r opsiwn i chi “optio allan” a chanslo’r broses adnewyddu awtomatig.

Cymerir taliadau adnewyddu bob blwyddyn, ar ben-blwydd eich tâl cyntaf trwy’r manylion talu a roddwyd yn wreiddiol.

£59 yw’r ffi flynyddol ar hyn o bryd. Os bydd y ffi yn mynd i fyny neu i lawr, rhoddir hysbysiad o hynny yn yr ebost adnewyddu, lle bydd gennych yr opsiwn o adnewyddu’n awtomatig, neu optio allan.