click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Cwmcarn

About

Y ffordd gyflymaf i feicwyr yn y de gael hwyl trac sengl a llwybrau i waered, mae Cwmcarn lai na hanner awr o bont Hafren a 10 munud o’r M4.

Trac sengl gwyllt a mwy naturiol Cafall, a ariannwyd gan Cognation, a llwybr enwog y Twrch. Bydd y ddau lwybr gradd Coch yn canolbwyntio eich sylw ar eich reidio, ond stopiwch i ddal eich anadl ac edrych o gwmpas a byddwch yn gweld yr olygfa dros Sianel Bryste. Mae llwybr i waered Y Mynydd wedi ei ymuno gan lwybr Pedalhounds DH a ariannwyd gan Cognation, sy’n rhoi opsiwn gradd Eithaf arall i’r rhai sy’n ymuno â’r gwasanaeth cludiant i’r top ar y safle.

Sefydlwyd llwybrau Cognation mtb yn Ne Cymru yn 2010 ac mae’n buddsoddi mewn beicio mynydd ledled De Cymru. Mae’n brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Fe’i ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Cydgyfeiriant yr UE trwy Lywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol yn dod gan Lywodraeth Cymru a chyrff partner eraill.

Cyfleusterau

I gael oriau agor Canolfan Ymwelwyr Cwmcarn, ewch i’n gwefan.

http://your.caerphilly.gov.uk/cwmcarnforest/visitor-information/visitor-information

I drefnu lle ar y gwasanaeth cludiant i’r top ewch i  www.cwmdown.co.uk. Ni chaniateir gwasanaeth cludiant i’r top preifat ar y naill lwybr na’r llall.

Mae siop a gwasanaeth llogi beics ar gael gan PS Cycles – www.pscycles.co.uk

Mae siop, caffi a chyfleusterau golchi beics ar gael a chyfleusterau parcio talu ac arddangos.

Manylion cyswllt

Ar gyfer llety a gwybodaeth ar y llwybrau, cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Cwmcarn ar: 01495 272001 (maes gwersylla ar gyfer pebyll / carafanau gyda 10 lle gwersylla moethus hefyd ar y safle) http://your.caerphilly.gov.uk/cwmcarnforest/glamping/glamping

I gael gwybodaeth i ymwelwyr, cysylltwch â Chanolfan Groeso ­Caerffili ar: 02920 880011

Ebost: tourism@caerphilly.gov.uk

Bob sy’n gofalu am y llwybrau yng Nghwmcarn. Ef yw warden beicio mynydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y de a medrwch ei ddilyn ar twitter https://twitter.com/MTBRangersouth

Dilynwch Cwmdown ar facebook https://www.facebook.com/pages/Cwmdown/175534509169213 neu twitter https://twitter.com/cwmdown

Dod Yma

Cymerwch yr M4 i Gymru (neu’r M50 / A40 / A449 os ydych chi’n dod o’r gogledd). Gadewch y draffordd yng nghyffordd 28, gan fynd i’r gogledd ar yr A467 heibio Rhisga a Crosskeys tuag at Abercarn. Trowch i’r dde ar y pumed cylchfan, ac mae canolfan Coedwig Cwm Carn wedi ei harwyddo o’r fan honno ymlaen.

Cludiant cyhoeddus:

Mae’r orsaf drenau agosaf yn Crosskeys, i lawr y ffordd o Gwmcarn

Ar gyfer gwasanaethau mapio lloeren/GPS defnyddiwch: NP11 7FA

Cyfeirnod Grid OS: ST 235 940