click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Parc Coedwig Afan

South Wales |

About

Mae Afan yn cynnig profiad beicio mynydd heb ei ail. Mae popeth yma, o lwybr untrac sy’n llifo trwy’r goedwig i lwybrau mwy agored ar y bryniau agored gyda golygfeydd godidog, ac mae Parc Beicio hefyd.

Parc Coedwig Afan Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r ardal beicio mynydd sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain a chan ei fod ond funudau o’r M4, mae’n ddelfrydol i’r sawl sydd eisiau cyrraedd lle reidio gwych heb y drafferth o deithio am amser maith. Gyda 6 o lwybrau gwych yn llifo trwy’r parc yn amrywio o 7km i 40km a’r Parc Beicio mae mwy o lwybrau untrac pob tywydd yma nag yn unrhyw ganolfan Beicio Mynydd arall yng Nghymru – rhaid i chi ddod i weld!

Mae cyfanswm y llwybrau beicio mynydd yma yn fwy na 130km ac mae rhaglen barhaus o gynnal a chadw a datblygu llwybrau.

Mae llwybr Y Wal yn 24km o lwybr untrac yn bennaf gyda golygfeydd anhygoel a disgynfeydd hynod a fydd yn gwneud i’ch calon bwmpio yr holl ffordd. Gwyliwch am ddarn y Graveyard a gafaelwch yn dynn ar gyfer y ddisgynfa olaf gyflym.

Llwybr White’s Level yw’r mwyaf technegol o’r llwybrau ym Mharc Coedwig Afan. Gan ddechrau gyda dringfa llwybr untrac heriol, mae’r llwybr pob tywydd hwn sydd 90% wedi ei adeiladu’n bwrpasol yna’n troi’n gymysgedd o gwympau creigiog, camau i lawr, cantelau a chroesiadau creigiau – ynghyd â darn dewisol gradd ddu ar gyfer y beicwyr mwyaf medrus  – dolen anghygoel o 17km.

Os ydych chi eisiau ychwanegu pellter i’r reid medrwch ychwanegu dolen uchaf hen lwybr y Skyline sydd â darnau hynod uchel (600m) a darnau untrac pellenig. Gwnewch yn siŵr bod yr offer priodol gyda chi gan fod y ddolen hon yn mynd â chi i le unig lle gall y tywydd newid.

Mae W2 yn cysylltu llwybrau Y Wal a White’s Level gyda llwybr cyswllt uchel i wneud taith epig 44km. Mae’n cymysygu golygfeydd ardderchog o’r dyffrynnoedd a’r bryniau o amgylch gyda rhai o’r darnau llwybrau untrac a disgynfeydd mwyaf heriol yn y DU, i gynnig her beicio mynydd go iawn. Gellir dechrau ym Mharc Coedwig Afan neu ganolfan ymwelwyr Glyncorrwg, gyda’r ganolfan arall yn cynnig lle da i gael lluniaeth hanner ffordd.

Cyfleusterau

Mae gan barc y goedwig ddwy ganolfan. Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan gyda siop Afan Valley Bike Shed a Chaffi’r Trailhead sydd wedi ei ailwampio a Chanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg sydd ar frig y cwm gyda’r Skyline Cycles Shop a Chaffi Skyline sydd wedi ei drwyddedu’n llawn.

Oriau agor canolfan ymwelwyr Afan

  • Mis Ebrill i fis Medi: Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 5.00pm (6pm ar benwythnos a Gwyliau’r Banc)
  • Mis Hydref i fis Mawrth: Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm (5pm ar benwythnos a Gwyliau’r Banc)

Manylion Cyswllt

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y llwybrau, ffoniwch naill ai Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar: 01639 850564 neu Ganolfan Beicio Mynydd  Glyncorrwg ar: 01639 851900.

Bob sy’n gofalu am y llwybrau ym Mharc Coedwig Afan. Ef yw warden beicio mynydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y De a medrwch ei ddilyn ar twitter yn https://twitter.com/MTBRangersouth

Dod yma

O’r Gogledd a Chanolbarth Lloegr

Cymerwch yr M5 i’r de i’r M50. Cymerwch yr M50 i Rosan ar Wy, yr A40 heibio Trefynwy i’r A449 ac yna’r M4 a mynd i’r gorllewin. Cymerwch Gyffordd 40 oddi ar yr M4 a mynd i’r gogledd ar yr A4107 i Barc Coedwig Afan. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i Barc Coedwig Afan.

Ar gyfer Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ewch ymlaen 3 milltir i Gymer a throi i’r chwith i lawr i Lyncorrwg, ac yna chwiliwch am yr arwydd Pyllau Glyncorrwg/Glyncorrwg Ponds ar y chwith.

O’r De a Llundain

Cymerwch yr M4 /M5 dros Bont Hafren i Gymru (peidiwch ag anghofio bod angen arian toll). Dilynwch yr M4 i’r gorllewin heibio Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Cymerwch Gyffordd 40 oddi ar yr M4 ac ewch i’r gogledd ar yr A4107 i Barc Coedwig Afan. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown  i Barc Coedwig Afan.

Ar gyfer Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ewch ymlaen 3 milltir i Gymer a throi i’r chwith i lawr i Lyncorrwg, ac yna chwiliwch am yr arwydd Pyllau Glyncorrwg/Glyncorrwg Ponds ar y chwith.

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Port Talbot, 12 milltir i ffwrdd. I gael manylion trenau, ffoniwch 08457 484950

Ar gyfer Llywio â Lloeren /GPS/Gwasanaethau Mapio, defnyddiwch: SA13 3HG

Defnyddiwch: Canol Tref Port Talbot, De Cymru