click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Antur Stiniog

North Wales |

About

Mae Antur Stiniog yn Ganolfan Beicio Mynydd gyda chludiant i’r top, wedi ei lleoli ym Mlaenau Ffestiniog yng nghanol Eryri hardd, Gogledd Cymru.

Rydym yn cynnig y gwasanaeth cludiant i’r top gorau yn y DU i gyrraedd y llwybrau beicio mynydd, ynghyd â Chaffi gwych yn gweini bwyd lleol, llogi beiciau, Hyfforddi Sgiliau a Chroeso Cymraeg mawr i bawb.

Mae gan Antur Stiniog 6 llwybr sy’n amrywio o radd las i ddu ac rydym wedi cael canmoliaeth ryngwladol, yn y wasg beicio mynydd a chan feicwyr eu hunain. Mae ein gwasanaeth cludiant yn gwasanaethu pob un o’r llwybrau (rydym yn gyfleustra cludiant i’r top yn unig) sy’n cael ei ystyried y gwasanaeth cludiant i’r top gorau yn y DU.

I brofi’r Gwasanaeth Cludiant i’r Top ar ei orau rydym yn argymell trefnu tocyn diwrnod llawn. Mae’r gwasanaeth cludiant yn gwneud hyd at 20 rhediad y dydd. Rydym yn argymell cyrraedd mor gynnar ag y bo modd i gael y mwyaf allan o’ch diwrnod a threulio eich amser yn Antur Stiniog yn reidio, ddim yn gwthio! Mae’r cludiant cyntaf am 10am ac yn rhedeg tan 4.15pm gyda hanner awr o egwyl i ginio am 1pm.

Medrwch drefnu lle gyda’n system bwcio arlein ddiogel. Ewch i archebwch nawr. Darllenwch ein telerau ac amodau cyn archebu.

Cyfleusterau

ORIAU AGOR

Mae ein horiau agor yn dymhorol:

  • Rydym ar agor 4 diwrnod (dydd Iau i ddydd Sul) o fis Hydref i fis Mawrth, 5 diwrnod (dydd Iau i ddydd Llun) o fis Ebrill i Fehefin a 7 diwrnod yr wythnos o fis Gorffennaf i fis Medi.
  • (Gall yr oriau agor amrywio dros gyfnod y Nadolig)

Oriau agor y Ganolfan: 8am – 5pm

Cludiant i’r top yn y bore: 10am

Cludiant i’r top yn y prynhawn: 1.30pm

Cludiant olaf y dydd: 4pm – 4.15pm (yn dibynnu ar y golau)

Tocyn gyda’r nos ar gael yn yr haf o wneud cais.

Mae modd trefnu cludiant preifat i’r top ar ddyddiau pan nad oes cludiant cyffredinol ar gael.

post@anturstiniog.com

PRISIAU (FESUL BEICIWR)

Pris Archebu Ymlaen Llaw

  • Diwrnod Llawn (Penwythnos): £32.50
  • Diwrnod Llawn (Llun – Gwener) £29.00
  • Hanner Diwrnod (Ffonio i drefnu): £18.50

Cludiant sengl i’r top: £5.00 (Bydd tocynnau sengl ond ar gael os oes lle.)

Manylion Cyswllt

01766 238 007

http://www.anturstiniog.com

 

 

Compare properties

Our Trails

+black

Black Powder

Reid DH Ddu yn rhannu brig 50m ‘The Black’ cyn y bydd cyfres o ganteli yn eich anfon i law ...
Reid DH Ddu yn rhannu brig 50m ‘The Black’ cyn y bydd cyfres o ganteli yn eich anfon i lawr ochr arall y bryn.
+black

Y Du

Reid DH Ddu gydag adran uchaf gyflym ac adran serth greigiog gyda neidiau mawr i’ch cadw a ...
Reid DH Ddu gydag adran uchaf gyflym ac adran serth greigiog gyda neidiau mawr i’ch cadw ar flaenau’ch traed.
+red

Wild Cart

Reid DH Goch / Reid Rydd gyda darn serth gwych trwy ganteli agored a hwyl diddiwedd gyda c ...
Reid DH Goch / Reid Rydd gyda darn serth gwych trwy ganteli agored a hwyl diddiwedd gyda chorneli.
+red
FAMILY

Drafft

Reid DH Goch / Reid Rydd gyda’r un nodweddion â ‘Wild Cart’ ond gydag ychydig llai o ‘GNAR ...
Reid DH Goch / Reid Rydd gyda’r un nodweddion â ‘Wild Cart’ ond gydag ychydig llai o ‘GNAR’.
+red

Scrybadyb

Scrybadyb…..Darn Coch sy’n arwain i Lwybr Wild Cart – medrwch ddisgwyl neidiau, neidiau a ...
Scrybadyb…..Darn Coch sy’n arwain i Lwybr Wild Cart – medrwch ddisgwyl neidiau, neidiau a mwy o neidiau!
+blue
FAMILY

Jympar

Llyfnach, haws ond dim llai o hwyl. Mae’r ychwanegiad newydd i deulu Antur Stiniog yn llwy ...
Llyfnach, haws ond dim llai o hwyl. Mae’r ychwanegiad newydd i deulu Antur Stiniog yn llwybr Glas sy’n addas ar gyf ...