Cymru. Y lle i Feicio
Mae beicio yn gamp, yn ffordd o fyw ac yn ysbrydoliaeth – o olygfeydd mynyddig i ddyffrynnoedd epig, o amgylch llynnoedd, coedwigoedd, cestyll, cymunedau ac arfordiroedd, ar feysydd chwarae, traciau pwmpio a phodiwmau. Pa bynnag antur a ddewiswch, byddwn yn cysylltu ac yn grymuso cenedlaethau i wybod bod Cymru wedi’i chreu ar gyfer beiciau.

Mae Beicio Cymru yn ymroddedig i feithrin diwylliant beicio bywiog trwy gysylltu cymunedau, hyrwyddo rhagoriaeth yn y gamp, chwyldroi mannau beicio, grymuso unigolion, a hyrwyddo llywodraethu perthnasol. Trwy fentrau strategol a phartneriaethau deinamig, rydym yn ymdrechu i wneud beicio yn rhan annatod o fywyd Cymru – gan ysbrydoli, cysylltu a gwella llesiant pob unigolyn a chymuned ar draws ein cenedl.

Ym mhopeth a wnawn wrth symud ymlaen, byddwn yn ysbrydoli, yn grymuso ac yn gweithredu gydag uniondeb ar gyfer ein cymuned feicio.