About
Agorodd Revolution ei ddrysau ar ddiwedd 2011, fel parc beicio a sefydlwyd gan ddau frawd gyda’r uchelgais o greu parc beicio ar gyfer beicwyr i lawr allt profiadol.
Ers agor, mae Revolution wedi tyfu o 1 llwybr a 30 o feicwyr yr wythnos i dros 250 o feicwyr yr wythnos a chynnig milltiroedd ar filltiroedd o lwybrau yn amrywio o feicio llyfn i feicio i lawr elltydd serth naturiol. Gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys o frig i waelod llwybr ‘Red Freeride’ gan gynnig 3 munud o feicio llif gyda phob math o naid y gallwch ei ddychmygu, ac ar ben arall y sbectrwm mae ‘50/01 Pro Freeride’, un o lwybrau neidio mwyaf Ewrop.
Mae’r amrywiaeth o lwybrau yn golygu y gall unrhyw un sy’n gyfforddus ar feic mynydd gael diwrnodau o hwyl yn beicio, yn herio eu hunain a datblygu eu gallu i feicio.
Mae’r parc yn cynnwys lifft i’r brig yn unig, byddai gwthio beic i fyny 300m serth yn anodd. Mae ein fflyd o gerbydau Land Rover 10 sedd gyda threlars unigryw yn gallu eich cludo i’r brig mewn llai na 5 munud, gan olygu y cewch dreulio mwy o amser ar gefn eich beic. Y cyfartaledd o deithiau y dydd yw oddeutu 13-15 gyda 26 yn record.
Mae’r parc yn gweithredu o ddydd Gwener – ddydd Sul bob wythnos, ond mae angen archebu ymlaen llaw drwy’r wefan gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Mae’r parc yn cynnwys teithiau i’r brig yn yr wythnos unwaith y mis a gallant gynnig diwrnodau preifat hefyd. Gweler y wefan i gael rhagor o fanylion.
Cyfleusterau:
Mae gan y parc wasanaeth arlwyo ar y safle sy’n cynnig brecwast, cinio, coffi crand a byrbrydau.
Mae gan y parc gyfleusterau golchi beiciau, toiledau ac maent yn datblygu cyfleusterau newid a chawodydd erbyn haf 2019.
Trwy ein partneriaeth gyda Madison Saracen mae gennym Feiciau i Lawr Allt Saracen Myst 2019 ar gael i’w llogi drwy’r wefan.
Gellir parcio am ddim.
Cynhelir y diwrnodau lifft i’r brig o 10am-4pm bob dydd.
Cyrraedd Yma:
Mae’r Parc Beicio wedi’i leoli ym mhentref Llangynog yng Ngogledd Cymru. Wrth gyrraedd y pentref o gyfeiriad yr Amwythig / Croesoswallt dilynwch y briffordd nes y gwelwch hen gapel o frics coch cyn pont llwybr sengl. Ychydig cyn hyn mae troad i’r chwith, cymrwch y troad a dilyn y ffordd am 300m, mae’r parc ar y chwith.
Cod Post ar gyfer Teclynnau Llywio Lloeren yw SY10 0EP.
Gwybodaeth gyswllt:
I gael gwybodaeth am y llwybrau cysylltwch â Pharc Beicio Revolution. Ffôn: 01691 860 965 neu anfonwch e-bost at info@revolutionbikepark.co.uk
Mae’r ganolfan llwybrau wedi’i lleoli yn Llangynog, Croesoswallt, SY10 OEP.
Gallwch ddilyn tîm Revolution ar Facebook.