click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Coed y Brenin

Diweddariad ar Lwybrau Beicio Mynydd:

Yr Afon: Ar Agor
MinorTaur: • Popeth ar agor, heblaw am ‘Buwch Bren’, a hynny oherwydd gwaith torri coed. Dilynwch y dargyfeiriad ac unrhyw gyfarwyddiadau gan staff y safle.
Cyflym Coch: • Popeth ar agor, heblaw am ‘Buwch Bren’, a hynny oherwydd gwaith torri coed. Dilynwch y dargyfeiriad ac unrhyw gyfarwyddiadau gan staff y safle.
Temtiwr: Ar Agor
Dragon's Back: Ar Agor
Tarw Du: Ar agor gyda gwyriad. Mae ‘Flightpath’ ac ‘R74’ ar gau oherwydd difrod yn sgil tywydd garw a choed sydd wedi’u chwythu drosodd. Dilynwch y gwyriad.
MBR: Ar agor
Beast: Ar agor
Ardal Sgiliau Y Ffowndri: Ar Agor

About

Mecca beicio mynydd Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Coedwig Coed-y-Brenin yn gartref i rwydwaith traciau sengl pob tywydd anhygoel, sy’n cynyddu o ran nifer trwy’r amser, gan gynnwys ‘Falseteeth’ sy’n ymgorffori’r nodwedd fwyaf yn y goedwig, ‘The Cavity’. Disgynnwch i mewn a chael eich poeri allan yr ochr arall gyda hynny o steil y medrwch ei ganfod! Bydd y reidio technegol i fyny ac i lawr yn gwneud i chi wenu fel ffŵl, ac mae golygfeydd hynod o Eryri o’ch cwmpas a fydd yn mynd â’ch gwynt. Mae’r MinoTaur yn ddatblygiad gradd glas sy’n mynd gyda’r reidiau coch a du. Mae’r nodweddion sydd wedi eu haddasu’n arbennig yn golygu mai Parc Coed-y-Brenin yw’r atyniad beicio mynydd mwyaf cynhwysol yn y Deyrnas Unedig.

Coed y Brenin oedd y goedwig gyntaf i’w datblygu ar gyfer beicio mynydd a hyd heddiw mae’n cadw ei henw fel prif leoliad y sbort. Mae amrywiaeth o lwybrau sy’n addas i bawb, o deuluoedd a rhai sy’n newydd i’r gamp (Yr Afon) i lwybrau technegol creigiog i arbenigwyr, oll yn llifo allan o’n canolfan ymwelwyr eco hynod. Cymerwch sbec gan ddefnyddio’r daith rithwir ryngweithiol uchod.

Mae’r rhwydwaith llwybrau yn cael ei ehangu a’i gwella trwy’r amser. Mae Ardal Sgiliau Y Ffowndri a’r Parc Beics yn ychwanegu amrediad o nodweddion i brofi a datblygu eich reidio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y golygfeydd o’ch cwmpas, draw at Gader Idris, dyffrynnoedd rhewlifol, afonydd gwyllt, coedwig eang a’r cwbl yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae ein meysydd parcio a’n llwybrau ar agor 24/7!

Cyfleusterau

Mae’r ganolfan ymwelwyr bwrpasol yn cynnig diodydd poeth, byrbrydau, prif brydau bwyd, llogi beics a siop sy’n cynnwys popeth y bydd ei angen arnoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld, rydym yn addo y byddwch eisiau dychwelyd!

Oriau agor canolfan ymwelwyr Coed-y-Brenin:

Haf: 9.00am – 5.00pm bob dydd
Gaeaf: 9.30am – 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.00am – 5.00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Agor 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn (ac eithrio diwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).

Mae’r Siop Feics, Beics Brenin ar agor 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn (ac eithrio diwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).

Mae toiledau a chawodydd ar gael ynghyd â chyfleusterau i bobl anabl a chyfleusterau newid babis. Mae siop i gael gwybodaeth, lle golchi beics a chyfleusterau parcio talu ac arddangos.

Dylech bob amser reidio o fewn eich gallu ac yn unol â rheolau’r côd beicio coedwig.

Gwybodaeth gyswllt

Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf ar y llwybrau a’r ganolfan ymwelwyr.

I gael gwybodaeth ar y llwybrau, cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin: Ffôn: 01341 440747

I gael gwybodaeth ar lety a gwybodaeth i ymwelwyr, cysylltwch â Chanolfan Groeso Abermaw: Ffôn 01341 280787

Ebost barmouth.tic@gwynedd.gov.uk

Andy sy’n gofalu am y llwybr yng Nghoed y Brenin, llwybr Marin ac mae’n cefnogi grwpiau gwirfoddolwyr Penmachno a Dyfi. Ef yw warden beicio mynydd Cyfoeth Naturiol Cymru a medrwch ei ddilyn ar Twitter https://twitter.com/MTBRanger neu Facebook https://www.facebook.com/MTBRanger.CoedyBrenin

Dod Yma

O’r Gogledd / Gogledd-ddwyrain
Anelwch am Fanceinion. Cymerwch yr M62 / M6 i’r M56 i gyfeiriad Caer. Cymerwch yr M53 / A55 i’r de a’r gorllewin o gwmpas Caer ac yna’r A494 i’r Wyddgrug. Dilynwch yr A494 trwy Ruthun a’r Bala i Ddolgellau. O Ddolgellau ewch i’r gogledd ar yr A470, gan droi i’r dde ar gyfer y ganolfan ymwelwyr ar ôl pum milltir.

O Ganolbarth Lloegr, Llundain a’r De

Anelwch am Birmingham ac yna cymerwch yr M6 i’r gogledd. Trowch i’r gorllewin ar yr M54 heibio Telford. Ewch ar yr A5 o gwmpas yr Amwythig ac yna’r A458 trwy’r Trallwng. Cymerwch yr A470 i’r gogledd i Ddolgellau yng nghyffordd Mallwyd. O Ddolgellau ewch i’r gogledd ar yr A470, gan droi i’r dde ar gyfer y ganolfan ymwelwyr ar ôl pum milltir.

Ar gyfer gwasanaethau mapio lloeren/GPS, defnyddiwch: LL40 2HZ
Cyfeirnod Grid: SH 725 268

 

Compare properties

Our Trails

+black

Beast

Dyma llwybr y mae pawb yn ysu i’w goncro. Llwybr hirfaith ac anodd sy’n gofyn am gryn ymdr ...
Dyma llwybr y mae pawb yn ysu i’w goncro. Llwybr hirfaith ac anodd sy’n gofyn am gryn ymdrech corfforol a seicolego ...