click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Cwm Rhaeadr

|
Details

Cwm Rhaeadr

About

Gwybodaeth

Mewn coedlan bellennig 20 milltir o’r lleoliad beicio mynydd ym Mrechfa, a thu allan i bentref Cilycwm, mae Cwm Rhaeadr, sy’n gartref i lwybr coch gwych. Efallai mai dim ond 6.7km ydyw mewn hyd ac efallai mai dyma’r unig lwybr yma, ond mae’n bendant werth dod yma. Daeth hyn yn bosibl oherwydd cyllid a roddwyd i Gymdeithas Gymunedol Leol Cilycwm, ac mae cylchgrawn MBR a’r rhan fwyaf sy’n dod yma i reidio, yn ystyried bod hwn yn un o’r llwybrau gorau yn y DU. Gwyliwch y ffilm ar gyfer Cwm Rhaeadr i weld hynny eich hun.

Cyfleusterau

Mae llety a lluniaeth ar gael ym mhentref Cilycwm ac yn Llanymddyfri.

Mae’r maes parcio bach yng Nghwm Rhaeadr yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.

Gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dod Yma

Mae Cwm Rhaeadr, ger Llanymddyfri, wedi ei leoli filltir i’r gogledd o bentref Cilycwm. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Cilycwm o’r A482 neu’r A483. Ewch ymlaen i’r gogledd allan o Gilycwm i gyfeiriad Cronfa Ddŵr Llyn Brianne nes i chi gyrraedd yr arwyddion ar gyfer Cwm Rhaeadr.

Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans: SN 765 423