blue
Your search results

MinorTaur

in
Coed y Brenin Visitor Centre, ,
add to favorites
3321
• Popeth ar agor, heblaw am ‘Buwch Bren’, a hynny oherwydd gwaith torri coed. Dilynwch y dargyfeiriad ac unrhyw gyfarwyddiadau gan staff y safle.

Mae’r llwybr 9km hwn yn anelu at gyflwyno beicwyr mynydd newydd i feicio oddi ar y ffordd ar hyd trac unigol. Mae’n pontio’r bwlch rhwng beicio mynydd ar hyd ffordd goedwig a’r llwybrau gradd coch ‘anodd’ yng Nghoed y Brenin.

Y MinorTaur yw’r llwybr mwyaf poblogaidd yng Nghoed y Brenin erbyn hyn.

Mae’r gyflwyniad llawn hwyl i feicio mynydd ar gyfer ystod eang o oed a gallu ac mae’n unigryw oherwydd gall beicwyr ag anabledd ei ddefnyddio gyda beiciau mynydd a addaswyd.

Adeiladwyd y llwybr mewn 3 dolen, sy’n mynd yn hirach wrth fynd ymlaen, felly gallwch chi ddewis y pellter rydych am ei wneud. Ceir digon o nodweddion hwyl, yn cynnwys grisiau carreg, pennau bwrdd a llwybrau sy’n plymio’n anhygoel.

Cofiwch gymryd gofal y tro cyntaf, yna ewch dros y sesiynau i wella’ch sgiliau! Chwiliwch am yr olion carnau sgleiniog sy’n dweud wrthych fod MinorTaur o gwmpas!

Treuliwyd dros dair blynedd yn cynllunio’r prosiect uchelgeisiol hwn ac mae’n ffurfio rhan o bartneriaeth Canolfan Rhagoriaeth Eryri a arweinir gan Gyngor Gwynedd, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Cydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy Croeso Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Address: Coed y Brenin Visitor Centre
Area:
County:
Amser Y Reid (oriau): 1
Pellter: 5-10km
Gradd: Glas
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 145
News/Update: • Popeth ar agor, heblaw am ‘Buwch Bren’, a hynny oherwydd gwaith torri coed. Dilynwch y dargyfeiriad ac unrhyw gyfarwyddiadau gan staff y safle.
Cyfleusterau’r Llwybr: Ar y safle
Ardal: Gogledd Cymru
Canllaw Graddio Cymru: N/A

Compare properties

Nearby Trails

+green

Yr Afon

Mae’r llwybr coedwig 10.8km hwn yn mynd trwy rai o ardaloedd mwyaf gogoneddus afon Mawddac ...
Mae’r llwybr coedwig 10.8km hwn yn mynd trwy rai o ardaloedd mwyaf gogoneddus afon Mawddach, gan gynnwys rhaeadrau ...
+green

Ardal Sgiliau Y Ffowndri

Os ydych chi’n beicio mynydd am y tro cyntaf neu os ydych chi am ddysgu’r technegau sy’n h ...
Os ydych chi’n beicio mynydd am y tro cyntaf neu os ydych chi am ddysgu’r technegau sy’n hanfodol ar gyfer beicio o ...
+red

Temtiwr

This short but technical trail tests all a rider’s skills and abilities – not for novices. ...
This short but technical trail tests all a rider’s skills and abilities – not for novices. It gives the experienced ...

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Base / Centre