click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Brechfa

South Wales |
Details

Brechfa

South Wales

About

Mae Brechfa yn gyrchfan ddelfrydol i bobl sydd eisiau amser hamddenol neu rai sy’n hoffi reid galed. Mae Llwybr Gorlech, a ddyluniwyd gan Rowan Sorrell, ­yn cynnwys tair dringfa fawr a disgynfeydd dros 19km. Gall beicwyr uwch eu sgiliau hefyd brofi’r sgiliau hynny ar Lwybr du dychrynllyd ond cyffrous y Raven!

Yn gwbl groes i hynny, Llwybr Derwen yw’r man cychwyn i deuluoedd a rhai sy’n newydd i’r sbort, ac mae’n gyflwyniad gwych i feicio mynydd.

Mae pob llwybr yn dangos Coedwig Brechfa ar ei gorau.

Cyfleusterau

Mae meysydd parcio am ddim gyda chyfleusterau picnic a barbeciw. Mae tafarn y The Black Lion Abergorlech rownd y gornel o’r maes parcio yn gwasanaethu’r rhai sy’n mynd ar lwybr Gorlech. Ym maes parcio Byrgwm mae caffi’r The Shed ar gyfer y rhai sy’n mynd ar Lwybrau Raven neu Dderwen. 

At hyn, mae llwybr Coch Cwm Rhaeadr rhyw ugain milltir i’r gogledd-ddwyrain o Frechfa a werth ei ystyried os ydych chi yn yr ardal.

Dod Yma

Mae Abergorlech ar y B4310 rhyw 10 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin ac 8 milltir i’r gogledd o Landeilo.

O’r dwyrain

Gadewch yr A48 yn y gyffordd ar gyfer y Gerddi Botanegol Cenedlaethol a  dilynwch y B4310 i Nantgaredig ac yna ymlaen i Frechfa.

Mae Abergorlech 4 milltir i’r dwyrain o Frechfa ac mae arwyddion clir i faes parcio’r Goedwigaeth.

O Gaerfyrddin
Ewch ar yr A40 i gyfeiriad Llandeilo ac yna’r B4310 i Frechfa yn Nantgaredig.

O’r Gogledd-ddwyrain

Gadewch yr A40 yn Llanwrda 3 milltir i’r de o Lanymddyfri a dilynwch yr A482 i Grugybar. Wedyn, dilynwch arwyddon i Lansawel ac ar y B4310 i Abergorlech.

Ar gyfer gwasanaethau lloeren/GPS/Mapio, defnyddiwch: Brechfa

Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans: SN585340

 

Compare properties

Our Trails

+green

Derwen Gwyrdd

Ein nod oedd creu llwybr sy’n cydio yn y reidar ac sy’n dwysáu eich synhwyrau, gan roi bla ...
Ein nod oedd creu llwybr sy’n cydio yn y reidar ac sy’n dwysáu eich synhwyrau, gan roi blas i chi o reidio oddi ar ...
+blue

Derwen Glas

Yn ddolen oddi ar lwybr gwyrdd Derwen, mae llwybr Glas 4.7km Derwen yn dringo’n serthach c ...
Yn ddolen oddi ar lwybr gwyrdd Derwen, mae llwybr Glas 4.7km Derwen yn dringo’n serthach cyn cymryd disgynfa hirach ...
Gorlech red MBT trail Wales
+red

Gorlech

Wedi ei enwi ar ôl afon Gorlech, mae’r llwybr 18.5km hwn yn cynnig golygfeydd a thiriogaet ...
Wedi ei enwi ar ôl afon Gorlech, mae’r llwybr 18.5km hwn yn cynnig golygfeydd a thiriogaeth a chyffro.
+black

Llwybr Raven

Mae’r llwybr hwn yn creu reid sy’n cynnwys amgylchedd unigryw’r goedwig, o fargodion tywyl ...
Mae’r llwybr hwn yn creu reid sy’n cynnwys amgylchedd unigryw’r goedwig, o fargodion tywyll bwganllyd, canteli crei ...