click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Llys-y-Frân

About

Ym mhrydferthwch cefn gwlad Sir Benfro, mae Llys-y-Frân yn sefyll ar 350 erw o goetir, glaswelltir a thir fferm â llyn hyfryd wrth galon y cyfan. Adeiladwyd argae’r gronfa ym 1972 i ddarparu cyflenwadau dŵr glân ar gyfer Sir Benfro, ond roedd yn cynnal y dirwedd ar gyfer bywyd gwyllt a byd natur hefyd.

Ailddatblygwyd safle Llys-y-Frân yn sylweddol yn ddiweddar ac agorodd canolfan ymwelwyr newydd sbon a chanolfan gweithgareddau awyr agored ym Mehefin 2021. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael ar y safle’n cynnwys saethyddiaeth, taflu bwyeill, wal ddringo, chwaraeon dŵr, hyb beicio, trac pympio a thrac sgiliau, dau lwybr beicio mynydd bendigedig, â rhannau gwyrdd, glas a choch â 12 adran wedi eu graddio.

Adrannau gwyrdd : un trac ag arwyneb sy’n plymio ac yn llifo ag ambell i ysgafell a naid opsiynol.
Adrannau glas : un trac ag arwyneb ac ambell i ran coch opsiynol.
Adrannau coch : ambell i ddringfa ymestynnol a disgynfa serth â rhai ar dirwedd naturiol. Mae byrddau, gerddi cerrig ac ysgafellau serth yn nodweddion cyffredin o’r adran yma.

Yr Ardal Sgiliau a’r Trac Pympio:

Ardal sgiliau beicio mynydd pwrpasol, wedi ei dylunio i alluogi pobl o bob oedran ymarfer yn yr awyr agored.
Rydyn ni wedi cynnwys trac pympio â tharmac llyfn er mwyn helpu dechreuwyr i feistroli’r grefft o gynnal momentwm heb orfod pedalu.
Mae’n cynnig amrywiaeth o neidiau, pontydd a chreigiau i gael y gwaed yn llifo.
Beth bynnag yw’ch lefel, pwrpas y trac yw helpu i wella’ch sgiliau a magu’ch hyder, o’r dechreuwyr i’r hen lawiau. Rhad ac am ddim.

Cyfleusterau:

Lleolir yr hyb beicio yn y ganolfan gweithgareddau awyr agored, lle mae ystafelloedd newid, loceri, tai bach a chawodydd. Mae yna orsaf golchi beics ac offer trwsio beics hefyd fel y gallwch drwsio unrhyw broblemau ar y safle. Mae gwasanaeth llogi beiciau mynydd ar gael, gyda phob math o feintiau, o blant i oedolion.

Cewch barcio car am ddiwrnod llawn am £3, a bydd yr incwm yn cyfrannu at gynnal y llwybrau beicio mynydd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal i’r safonau uchaf ac y gall beicwyr y dyfodol eu mwynhau.

Yng Nghanolfan Ymwelwyr Llys-y-Frân mae siop anrhegion, tai bach, derbynfa â staff cyfeillgar a Chaffi Glan y Llyn. Mae’r caffi ar agor bob dydd ac mae’n cynnig byrbrydau blasus, prydau bwyd ac amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer. Mae digonedd o le i eistedd dan do, a seddi y tu allan ar y balconi sy’n amgylchynu’r ganolfan.

Oriau agor:

Oriau agor yr Haf (Mawrth – 8 Ebrill)
Ddyd Sadwrn a Ddyd Sul, 10:00am – 5:00pm
Dydd Llun a Ddydd Gwener, 10:00 – 4:00pm
Oriau agor yr Haf (9 Ebrill – Medi)
Dydd Llun a Ddyd Sul, 10:00am – 5:00pm
Oriau Agor y Gaeaf
Ddyd Sadwrn a Ddyd Sul, 10:00am – 4:00pm
Ar gau Dydd Nadolig a Gŵyl Sant Steffan

Ble ydyn ni:

Llys-y-Frân
Heol Clarbeston
Sir Benfro
SA63 4RR

Rydyn ni gwta 20 munud mewn car i’r gogledd-ddwyrain o Hwlffordd. Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i Lys-y-Frân o’r A40. Rydyn ni ychydig dros 2 awr o Gaerdydd mewn car. Ewch tua’r gorllewin ar yr M4.

Ar gyfer SatNav
What3Words:taps.swims.requiring

Cyfeirnod Grid OS:
SN 04189 24530

 

Compare properties

Our Trails

Llys-y-Frân MBT trail
+green

Llwybrau Llys y Frân

12 adran o drac. Pob rhan i'w reidio mewn cyfeiriad gwrthglocwedd wrth i chi feicio o amgy ...
12 adran o drac. Pob rhan i'w reidio mewn cyfeiriad gwrthglocwedd wrth i chi feicio o amgylch y llyn.