Mae’r llwybr 9km hwn yn anelu at gyflwyno beicwyr mynydd newydd i feicio oddi ar y ffordd ar hyd trac unigol. Mae’n pontio’r bwlch rhwng beicio mynydd ar hyd ffordd goedwig a’r llwybrau gradd coch ‘anodd’ yng Nghoed y Brenin.
Y MinorTaur yw’r llwybr mwyaf poblogaidd yng Nghoed y Brenin erbyn hyn.
Mae’r gyflwyniad llawn hwyl i feicio mynydd ar gyfer ystod eang o oed a gallu ac mae’n unigryw oherwydd gall beicwyr ag anabledd ei ddefnyddio gyda beiciau mynydd a addaswyd.
Adeiladwyd y llwybr mewn 3 dolen, sy’n mynd yn hirach wrth fynd ymlaen, felly gallwch chi ddewis y pellter rydych am ei wneud. Ceir digon o nodweddion hwyl, yn cynnwys grisiau carreg, pennau bwrdd a llwybrau sy’n plymio’n anhygoel.
Cofiwch gymryd gofal y tro cyntaf, yna ewch dros y sesiynau i wella’ch sgiliau! Chwiliwch am yr olion carnau sgleiniog sy’n dweud wrthych fod MinorTaur o gwmpas!
Treuliwyd dros dair blynedd yn cynllunio’r prosiect uchelgeisiol hwn ac mae’n ffurfio rhan o bartneriaeth Canolfan Rhagoriaeth Eryri a arweinir gan Gyngor Gwynedd, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Cydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy Croeso Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.