click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Bannau Brycheiniog

South Wales |

About

Gwybodaeth

Ardal beicio mynydd poblogaidd iawn arall, mae Bannau Brycheiniog wedi gwella’n fawr yn ddiweddar. Mae pecyn cyflawn o lwybrau wedi eu cynllunio a’u pecynnu ymlaen llaw yn ei gwneud yn hawdd i gael y gorau o’r rhwydwaith llwybrau naturiol yn yr ardal wyllt a bendigedig hon.

Mae llwybrau trwy goedwigoedd agored, dringfeydd serth a llac, disgynfeydd rhagorol a rhai o’r cwympiadau serthaf a mwyaf heriol erioed. Os ydych eisiau gweundir sy’n ysgwyd eich esgyrn neu os yw’n well gennych feicio’n hamddenol trwy gefn gwlad godidog, Bannau Brycheiniog yw’r lle i chi.

Er mwyn i chi gynllunio eich ymweliad, mae’r llwybrau i gyd yn dechrau a gorffen yn un o’r canolfannau beicio mynydd, neu hyb. Mae’r reidiau hefyd wedi eu graddio i’ch helpu chi i ddewis y llwybr iawn i chi a’ch ffitrwydd/gallu reidio chi.

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Becyn Beicio Mynydd pwrpasol sydd ar gael yn eu siop arlein. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys 14 o gardiau llwybrau beicio mynydd trac sengl ynghyd â gwybodaeth arall er mwyn i chi wneud y gorau o’ch ymweliad â’r Parc Cenedlaethol.

Cyfleusterau

Mae’r cyfleusterau’n amrywio ym mhob un o’r canolfannau yn ardal beicio mynydd Bannau Brycheiniog. Cewch wybod mwy am y llwybrau a’r cyfleusterau ar wefan swyddogol Beicio Mynydd Bannau Brycheiniog.

Dod Yma

Lleolir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Ne a Chanolbarth Cymru, yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffin ddeheuol 25 milltir i’r gogledd o Gaerdydd, prif ddinas Cymru. Yn ymestyn o’r Gelli yn y dwyrain i Landeilo yn y gorllewin, mae’n cynnwys y Mynydd Du, y Bannau Canol a’r Fforest Fawr ynghyd â gweundir, coedwigoedd, dyffrynnoedd, rhaeadrau a llynnoedd.

O Gaerdydd

Gyrrwch i’r gogledd ar yr A470.

Ar gyfer Gwasanaethau lloeren/GPS/Mapio, defnyddiwch: Aberhonddu

Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans: SN 977262

 

Compare properties

Our Trails

+red

The Gap

Dyma un o’r clasuron go iawn ym Mannau Brycheiniog, yn cynnwys Camlas Brycheiniog, y Taff ...
Dyma un o’r clasuron go iawn ym Mannau Brycheiniog, yn cynnwys Camlas Brycheiniog, y Taff Trail, Tramffordd Brinore ...