red
Your search results

Temtiwr

in
Coed y Brenin Visitor Centre,
add to favorites
2257

“Peidiwch â meddwl bod hwn yn opsiwn nofis ‘diogel’ – mae rhannau technegol iawn ar hyd Temtiwr. Mae’n berffaith ar gyfer chwistrelliad cyflym i’ch paratoi ar gyfer y troeon mawr.”

Yn 8.7km mae’r llwybr byr ond technegol hwn yn profi holl sgiliau a gallu’r beiciwr – anaddas i ddechreuwyr. Mae’n rhoi blas i’r beiciwr profiadol o beth i’w ddisgwyl o feicio mynydd yng Nghoed y Brenin. Bydd pob un o’r 6 rhan o drac sengl yn gwneud i chi wenu. Byddwch yn bendant o gael yr awydd i roi cynnig ar y llwybrau eraill.

Mae’n anodd o’r cychwyn cyntaf gyda slabiau cerrig a grisiau. Mae’n cynnwys nodweddion gradd coch a du a dringfa hir ac anodd ar hyd ffordd goedwig. Os gallwch chi ddygymod â hyn, yna byddwch chi wrth eich bodd efo’n llwybrau eraill.

Rhybudd: byddwch yn dod ar draws nifer o rannau caregog gan gynnwys grisiau cerrig sy’n disgyn 20cm/8” neu fwy.

Address: Coed y Brenin Visitor Centre
County:
Amser Y Reid (oriau): 0.5
Pellter: 5-10km
Gradd: Coch
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 170
Cyfleusterau’r Llwybr: Ar y safle
Ardal: Gogledd Cymru
Canllaw Graddio Cymru: N/A

Compare properties

Nearby Trails

+green

Yr Afon

Mae’r llwybr coedwig 10.8km hwn yn mynd trwy rai o ardaloedd mwyaf gogoneddus afon Mawddac ...
Mae’r llwybr coedwig 10.8km hwn yn mynd trwy rai o ardaloedd mwyaf gogoneddus afon Mawddach, gan gynnwys rhaeadrau ...
+green

Ardal Sgiliau Y Ffowndri

Os ydych chi’n beicio mynydd am y tro cyntaf neu os ydych chi am ddysgu’r technegau sy’n h ...
Os ydych chi’n beicio mynydd am y tro cyntaf neu os ydych chi am ddysgu’r technegau sy’n hanfodol ar gyfer beicio o ...
+black

Tarw Du

Roedd y Tarw Du (20.2 km) nid yn unig y llwybr gwreiddiol yng Nghoed y Brenin, ond hefyd r ...
Roedd y Tarw Du (20.2 km) nid yn unig y llwybr gwreiddiol yng Nghoed y Brenin, ond hefyd roedd yn cael ei ystyried ...

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Base / Centre