Mae maes parcio Mainc Lifio, man cychwyn y llwybr, rhan gyntaf y llwybr, sef ‘Parc a Reid,’ a rhan olaf y llwybr, sef ‘Reid Rydd’, ar gau oherwydd gwaith cwympo coed.
Defnyddiwch faes parcio ‘Hafna’ lle mae man cychwyn arall. Mae gwyriad rhwng arwyddbost 76 ac arwyddbost 7. Dilynwch y gwyriad er eich diogelwch.
Mae Llwybr 25km Gwydir Mawr yn llwybr beicio mynydd go iawn ym mhob ystyr y term. Dringeydd mawr, disgynfeydd serth, traciau sengl gwych a golygfeydd hynod sy’n gwneud hwn yn llwybr i’w gofio. Mae’r rhan fwyaf, ond nid pob un, o’r dringfeydd ar ffyrdd a llwybrau’r goedwig, sy’n rhoi cyfle i chi weld mynyddoedd Eryri, ac mae’r disgynfeydd i gyd yn rhai trac sengl bendigedig. Mae’r trac sengl yn amrywio o’r tynn, technegol a chreigiog i ddarnau agored sy’n llifo, o goedwig dywyll i gribau agored.
It incorporates the shorter Gwydir Bach trail, which is a 8.7km version taking between 45 to 90 minutes to complete.
Mae ‘Dwsin Drwg’ ar y Gwydir Mawr ar gau ar hyn o bryd, felly dilynwch yr gwyriad os gwelwch yn dda.
Amser Y Reid (oriau): 2
Pellter: 20-30km
Gradd: Coch
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 800
News/Update: Mae maes parcio Mainc Lifio, man cychwyn y llwybr, rhan gyntaf y llwybr, sef ‘Parc a Reid,’ a rhan olaf y llwybr, sef ‘Reid Rydd’, ar gau oherwydd gwaith cwympo coed.
Defnyddiwch faes parcio ‘Hafna’ lle mae man cychwyn arall. Mae gwyriad rhwng arwyddbost 76 ac arwyddbost 7. Dilynwch y gwyriad er eich diogelwch.
Cyfleusterau’r Llwybr: Lleol
Ardal: Gogledd Cymru
Canllaw Graddio Cymru: N/A
Nearby Trails
Mae llwybrau Penmachno yn un o drysorau cudd Gogledd Cymru. Llwybrau anghysbell, naturiol ...
Mae llwybrau Penmachno yn un o drysorau cudd Gogledd Cymru. Llwybrau anghysbell, naturiol eu naws gyda golygfeydd g ...