header_image
green
Your search results

Llwybr Cwm Elan

in
Elan Valley, Rhayader, Powys,,
add to favorites
596

Gan ddilyn llwybr bendigedig y rheilffordd o Oes Fictoria a ddefnyddiwyd wrth adeiladu’r argaeau, mae Llwybr Cwm Elan yn rhedeg yr holl ffordd o Raeadr Gwy, trwy Gwm Elan ac i ben argae Craig Goch.

Yn ddelfrydol i deuluoedd a beicwyr llai profiadol, llwybr tarmac yw hwn o Raeadr Gwy heibio i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan ac i fyny i draphont y Garreg Ddu, ac mae arwyneb cerrig mâl ar hyd gweddill y llwybr. Defnyddir y llwybr yma hefyd i “gysylltu’r dotiau” rhwng y gwahanol lwybrau beicio mynydd eiconaidd.

Gellir ymuno â’r llwybr mewn nifer o fannau, sy’n golygu y gallwch wneud eich reid mor fyr neu mor hir ag y dymunwch.

https://www.plotaroute.com/route/1831002

Address: Elan Valley, Rhayader, Powys,
County:
Post Code: LD6 5HP
Amser Y Reid (oriau): 3
Pellter: 20-30km
Gradd: Gwyrdd
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 300
Cyfleusterau’r Llwybr: Ar y safle
Ardal: Canolbarth Cymru
Canllaw Graddio Cymru: N/A
Hwylus i’r teulu

Compare properties

Nearby Trails

Elan Valley Mountain biking Nantgwyllt Blue
+blue

Nantgwyllt Glas

Mae'r llwybr cylchol yno a nôl yn mynd â chi o'r Ganolfan Ymwelwyr ar hyd Llwybr Cwm Elan ...
Mae'r llwybr cylchol yno a nôl yn mynd â chi o'r Ganolfan Ymwelwyr ar hyd Llwybr Cwm Elan i ben argae Caban Coch.
Elan Valley Mountain biking
+blue

Llybrau Llif Nantgwyllt

Gwibiwch ar hyd reid wyllt y llwybr Glas, neu profwch eich sgiliau ar y llwybr Coch mwy se ...
Gwibiwch ar hyd reid wyllt y llwybr Glas, neu profwch eich sgiliau ar y llwybr Coch mwy serth a rhydd.
Ceidwad Coch Elan Valley Mountain Bike Trail
+red

Ceidwad Coch

Mae'r llwybr cylchol yma o'r Ganolfan Ymwelwyr yn mynd â chi heibio i rai o'r golygfeydd g ...
Mae'r llwybr cylchol yma o'r Ganolfan Ymwelwyr yn mynd â chi heibio i rai o'r golygfeydd gorau ar yr ystâd.

Base / Centre

Cwm Elan Ganolfan Ymwelwyr

Mid Wales
01597 810880
rangers.elan@dwrcymru.com