click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

Cwm Elan Ganolfan Ymwelwyr

Mid Wales |

About

Lleolir ystâd Cwm Elan wrth galon Mynyddoedd Cambria. Mae ein rhan helaeth ni o’r canolbarth, sydd wedi ei amgylchynu gan fryniau agored, yn enwog am fod yn un o’r ardaloedd beicio mynydd naturiol gorau ym Mhrydain. Mae’r ystâd yn cwmpasu dros 70 milltir sgwâr o gefn gwlad, sef 1% o Gymru – felly gallwch reidio am oriau heb weld neb.
O’i safle ar ben Cwm Elan, mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn fan cychwyn bendigedig i grwydro Mynyddoedd Cambria. Mae ein llwybrau’n pasio trwy gefndir godidog o argaeau a chronfeydd dŵr o Oes Fictoria, cefn gwlad brydferth, coetiroedd hynafol, hen reilffyrdd a bryniau agored helaeth.
Mae beicwyr o bob lefel – o ddechreuwyr pur, i’r rhai sy’n chwilio am sbort, i arbenigwyr – yn teimlo’n gartrefol yng Nghwm Elan. Gallwch gymryd eich amser i ddatblygu’ch sgiliau ar gylchoedd byr sy’n ddigon i roi boddhad, neu’ch ymestyn eich hun ar deithiau trawsgwlad epig o amgylch yr ardal.
Nawr gallwn frolio dau drac beicio mynydd pwrpasol newydd sbon hefyd, cylch byr sy’n cynnwys disgynfeydd graddfa Las a Choch – a’r rhain yw’r llwybrau beicio mynydd pwrpasol cyntaf i gael eu hadeiladu ar yr ystâd.

Cyfleusterau

Yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, mae ein Hyb Beicio’n cynnwys gweithdy Llogi Beics, ystafelloedd newid (yn dod yn fuan) a chyfleusterau golchi beics. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn cynnig digonedd o leoedd parcio, caffi, toiledau cyhoeddus am ddim, a gwasanaeth Gofalwyr i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad. Mae yna feysydd parcio am ddim a thoiledau cyhoeddus eraill ar gael o gwmpas yr ystâd hefyd.

Lleolir y ganolfan ger tref Rhaeadr Gwy, lle mae yna amrywiaeth o siopau annibynnol, tafarndai, a chaffis, ynghyd â dewis da o lety sydd i’w gweld yma: www.rhayader.co.uk.

Mae Clive Powell Mountain Bikes yn Stryd y Gorllewin wedi bod yn croesawu beicwyr mynydd ers yr 80au. Fel technegwyr beics arbenigol, cyfleuster llogi beics, golchfa a siop, bydd tîm Clive, sy’n arbenigwyr yn eu crefft, yn eich gosod ar ben ffordd.

Mae Rhaeadr Gwy hefyd yn gartref i drac pwmpio mwyaf y DU – mae’n agored trwy gydol y flwyddyn ac yn hollol rad ac am ddim. Pump Track Wales yw trac pwmpio sbrint cyntaf y DU hefyd. https://www.pumptrackwales.co.uk/

Mae rhagor o fanylion am Gwm Elan yn www.elanvalley.org.uk.

Dod Yma

Mae Rhaeadr Gwy wrth galon Cymru, hi yw’r dref gyntaf ar Afon Gwy ar gyrion Mynyddoedd Cambria: mae hi’n rhwydd ein ffeindio ni am ein bod ar groesfan naturiol; ac rydyn ni’n agosach nag y byddech chi’n disgwyl:

Birmingham i Raeadr Gwy: 2 awr
Manceinion i Raeadr Gwy: 3 awr
Llundain i Raeadr Gwy: 4 awr

Saif Rhaeadr Gwy ar yr A470, sef y brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru: 15 milltir i’r gogledd i Lanfair-ym-muallt a 10 milltir i’r de o Langurig. O’r dwyrain, bydd yr A44 yn mynd â chi i Raeadr Gwy a Chwm Elan. Rydyn ni gwta 20 milltir o Nant yr Arian, a hanner ffordd rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae hi’n rhwydd dod o hyd i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Wrth yrru, o Raeadr Gwy, dilynwch y B4518 tua’r gorllewin ac fe welwch arwydd i ddangos y troad i’r chwith i’r Ganolfan Ymwelwyr ymhen tair milltir.  Os ydych chi’n defnyddio offer llywio â lloeren, bydd y cod post LD6 5HP yn mynd â chi’n agos at y Ganolfan Ymwelwyr… ond ar ôl troi i’r chwith oddi ar y B4518, anwybyddwch y cyngor i groesi’r bont haearn dros yr afon; yn hytrach ewch ymlaen dros y grid gwartheg ac mae’r Ganolfan Ymwelwyr o’ch blaen.

Os ydych chi’n teithio tua’r gogledd i Raeadr Gwy ar yr A470, efallai y bydd eich offer llywio â lloeren yn ceisio mynd â chi trwy bentref Llanwrthwl; nid yw’r ffordd yma’n addas i fysys neu gerbydau mawr am ei bod yn mynd â chi ar hyd lonydd cefn gwlad cul. Am lwybr mwy uniongyrchol, ewch am Raeadr Gwy a throwch i’r chwith wrth Gloc y Dref.

Cysylltwch:

Cwm Elan Ganolfan Ymwelwyr,
Elan Valley,
Rhayader,
Powys,
LD6 5HP

 

Compare properties

Our Trails

Elan Valley Trail
+green

Llwybr Cwm Elan

Llwybr Cwm Elan yn rhedeg yr holl ffordd o Raeadr Gwy, trwy Gwm Elan ac i ben argae Craig ...
Llwybr Cwm Elan yn rhedeg yr holl ffordd o Raeadr Gwy, trwy Gwm Elan ac i ben argae Craig Goch
+blue

Bryniau’r Morgrug

Anelwch tuag at hen ffordd mynydd Aberystwyth am ryw 1km cyn troi i’r chwith dros y bont s ...
Anelwch tuag at hen ffordd mynydd Aberystwyth am ryw 1km cyn troi i’r chwith dros y bont sy’n croesi Nant Gwyllyn.
Ceidwad Coch Elan Valley Mountain Bike Trail
+red

Ceidwad Coch

Mae'r llwybr cylchol yma o'r Ganolfan Ymwelwyr yn mynd â chi heibio i rai o'r golygfeydd g ...
Mae'r llwybr cylchol yma o'r Ganolfan Ymwelwyr yn mynd â chi heibio i rai o'r golygfeydd gorau ar yr ystâd.
Elan Valley Mountain biking
+blue

Llybrau Llif Nantgwyllt

Gwibiwch ar hyd reid wyllt y llwybr Glas, neu profwch eich sgiliau ar y llwybr Coch mwy se ...
Gwibiwch ar hyd reid wyllt y llwybr Glas, neu profwch eich sgiliau ar y llwybr Coch mwy serth a rhydd.
Elan Valley Mountain biking Nantgwyllt Blue
+blue

Nantgwyllt Glas

Mae'r llwybr cylchol yno a nôl yn mynd â chi o'r Ganolfan Ymwelwyr ar hyd Llwybr Cwm Elan ...
Mae'r llwybr cylchol yno a nôl yn mynd â chi o'r Ganolfan Ymwelwyr ar hyd Llwybr Cwm Elan i ben argae Caban Coch.
+red

Cylch Nannerth

Gan ddechrau o faes parcio Cwmdauddwr, y mae’r llwybr hwn yn eich arwain drwy ddau gwm. Ma ...
Gan ddechrau o faes parcio Cwmdauddwr, y mae’r llwybr hwn yn eich arwain drwy ddau gwm. Mae’n dechrau yn Nyffryn Gw ...
+red

O Gwmpas Caban

Yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Dyffryn Elan, mae’r llwybr byr, cymedrol hwn yn mynd â chi ...
Yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Dyffryn Elan, mae’r llwybr byr, cymedrol hwn yn mynd â chi o gwmpas cronfa Caban Coc ...
+red

Roman Camp

Yn dechrau yn Clive Powell Mountain Bikes yn Rhaeadr, byddwch yn anelu am safle Gwersyll R ...
Yn dechrau yn Clive Powell Mountain Bikes yn Rhaeadr, byddwch yn anelu am safle Gwersyll Rhufeinig cyn cynhesu ar d ...